Llywodraethu yng Nghymru
Gweithio gyda Llywodraeth y DU
Er bod gan Lywodraeth Cymru a Senedd Cymru bwerau ariannol, deddfwriaethol a pholisi sylweddol dros lawer o’r hyn mae llywodraeth leol Cymru’n ei wneud, mae’n bwysig bod cynghorau’n parhau i weithio’n agos â Gweinidogion Llywodraeth y DU ac ASau yn Llundain.


Cyllid heb ei ddatganoli
Mae rhai meysydd allweddol sy’n effeithio ar lywodraeth leol sydd heb eu datganoli, fel
Swyddogaethau’r Swyddfa Gartref o ran plismona a diogelwch cymunedol a materion eraill sy’n berthnasol i’r DU i gyd fel budd-daliadau a’r system trethu lleol gyffredinol (h.y. treth y cyngor). Fodd bynnag, ers mis Ebrill 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi gallu amrywio’r cyfraddau o Dreth Incwm roedd trethdalwyr Cymru’n eu talu. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae gan Gynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Senedd a Llywodraeth y DU, trwy ASau lleol a Gweinidogion perthnasol. Mae llawer o’r gynrychiolaeth genedlaethol yn digwydd drwy CLlLC a Chymdeithas Llywodraeth Leol y DU.
Gadael yr UE
Mae Deddf y Farchnad Fewnol 2020 (gweler tudalen 45), a gyflwynwyd gan fod y DU yn gadael yr UE, yn pennu rheolau sylfaenol newydd o ran y berthynas â gweddill y DU. Mae’n caniatáu i nwyddau a gwasanaethau symud yn rhydd ar hyd a lled y DU ac mae’n rhoi pwerau eang i Weinidogion y DU i ddarparu cymorth ariannol i unrhyw ran o’r DU mewn perthynas â datblygu economaidd, isadeiledd, gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon a chymorth ar gyfer gweithgareddau a chyfnewidiadau addysg a hyfforddiant.