Llywodraethu yng Nghymru
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
Mae’r termau “Llywodraeth Cymru” a’r “Senedd” neu “Senedd Cymru” yn golygu gwahanol bethau ond maent yn cael eu drysu’n aml. Llywodraeth Cymru yw corff gweithredol llywodraeth yng Nghymru ac mae’n cynnwys Gweinidogion sy’n cael eu cefnogi gan weision sifil, wedi’u lleoli yn bennaf ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd a swyddfeydd rhanbarthol eraill. Y Senedd neu Senedd Cymru yw’r corff deddfwriaethol ac mae’n cynnwys Aelodau o’r Senedd (AS) ac mae’n datblygu ac yn craffu ar bolisi a pherfformiad Llywodraeth Cymru ac yn cymeradwyo cyfraith Cymru. Mae’r Senedd wedi’i lleoli ym Mae Caerdydd ac mae’n cael ei chefnogi gan swyddogion yng Nghomisiwn y Senedd.


Cyllid y Llywodraeth
Mae gan Lywodraeth Cymru ystod eang o bwerau sy’n effeithio ar lywodraeth leol a’r gwasanaethau mae’n ei darparu. Mae’n gyfrifol am ystod o feysydd polisi llywodraeth leol, fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr amgylchedd, cynllunio, cludiant a datblygu economaidd. Yn allweddol, mae’n gyfrifol am ddosbarthu cyllideb refeniw Cymru o £17 biliwn, a £5.7 biliwn o honno (2021/22) yn cael ei gwario ar wasanaethau llywodraeth leol.
Mae Llywodraeth Cymru’n gosod yr agenda genedlaethol ar gyfer Cymru, ac er pennu strategaethau a thargedau allweddol, mae’n rhoi hyblygrwydd sylweddol i lywodraeth leol i weithio o fewn y terfynau cenedlaethol yma. Nid yw’r rhan fwyaf o’r cyllid sy’n dod i gynghorau lleol gan Lywodraeth Cymru wedi’i glustnodi. Mae hyn yn golygu bod gan gynghorau’r hyblygrwydd mwyaf posib’ i wario’r arian ar anghenion a blaenoriaethau lleol.
Gweithio gyda’r Llywodraeth
Mae gan gynghorau gysylltiadau uniongyrchol â Llywodraeth Cymru drwy aelodau etholedig a swyddogion. Mae llawer o’r gynrychiolaeth genedlaethol a thrafod ynglŷn â datblygu polisi a chyllid yn digwydd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Sefydliad trawsbleidiol yw hwn, sy’n cynrychioli pob cyngor ac yn ceisio siarad ag un llais ar ran llywodraeth leol. Mae arweinwyr ac uwch gynghorwyr o bob awdurdod lleol yn cael eu penodi i CLlLC, gyda nifer yn gweithredu fel llefarwyr ar ran llywodraeth leol sy’n cyfarfod yn rheolaidd â Gweinidogion Cymru, ASau a Gweinidogion Llywodraeth y DU i sicrhau bod pryderon a safbwyntiau llywodraeth leol yn dylanwadu ar benderfyniadau polisi cenedlaethol.
Mae deiliaid swyddi CLlLC i’w gweld yma.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Mae Cyngor Partneriaeth statudol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol sy’n hyrwyddo cydweithio a chydweithredu datblygu polisi ar sail gwybodaeth.
Mae manylion cyfarfodydd gwleidyddol CLlLC i’w gweld yma.
Gall y Senedd wneud cyfraith yng Nghymru yn y meysydd canlynol:
- Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig
- Henebion ac adeiladau hanesyddol
- Diwylliant
- Datblygiad economaidd
- Addysg a hyfforddiant
- Yr amgylchedd
- Gwasanaethau tân ac achub a hyrwyddo diogelwch tân
- Bwyd
- Iechyd a gwasanaethau iechyd
- Priffyrdd a chludiant
- Tai
- Llywodraeth leol
- Gweinyddu cyhoeddus
- Lles cymdeithasol
- Chwaraeon a hamdden
- Twristiaeth
- Cynllunio gwlad a thref
- Dŵr ac amddiffyn rhag llifogydd
- Yr iaith Gymraeg