Llywodraethu yng NghymruGweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned

Llywodraethu yng Nghymru

Gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned

Mae 735 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru gyda chyfuniad o tua 8,000 o gynghorwyr etholedig neu gyfetholedig. Mae llawer o gynghorwyr sir yn gwisgo dwy het, gan eu bod hefyd ar y cyngor cymuned neu gyngor tref lleol.

Nid oes cynghorau cymuned a thref ym mhob rhan o Gymru gan fod gweithdrefn i ffurfio cynghorau newydd; gallant gael eu sefydlu neu eu diddymu yn ôl dymuniad y gymuned. Gallant bennu ‘praesept’ neu ‘ardreth’ sy’n cael ei chasglu gan y prif gyngor ynghyd â Threth y Cyngor.

Mae faint o wasanaethau mae cynghorau cymuned a thref yn eu darparu’n amrywio trwy Gymru, ond gallant gynnwys:

  • Darparu a chynnal cynlluniau cludiant cymunedol
  • Prosiectau ieuenctid lleol
  • Gweithgareddau twristiaeth
  • Cyfleusterau hamdden
  • Meysydd parcio
  • Meysydd pentrefi
  • Toiledau cyhoeddus
  • Biniau sbwriel
  • Cynlluniau bioamrywiaeth (dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2021, mae dyletswydd ar bob cyngor i baratoi cynlluniau bioamrywiaeth)
  • Mynwentydd
  • Rhandiroedd
  • Llochesi bws
  • Comins a mannau agored
  • Llwybrau cerdded a llwybrau meirch
  • Mesurau lleihau trosedd
  • Darparu neuadd bentref neu gyfrannu at gorff arall sy’n darparu cyfleuster

Ar ben hyn, mae llawer o gynghorau’n defnyddio pŵer disgresiwn Adran 137 sy’n eu galluogi i ddarparu gwasanaethau eraill fel ffonau cyhoeddus, cymorthfeydd pentref, gwarchod neu adfer hen bethau neu adeiladau, cystadleuaeth y pentref taclusaf, tacluso tir lle nad oes perchennog amlwg, coed Nadolig, sioeau blodau, gwyliau a ffeiriau, cyfraniadau at grwpiau chwarae a chlybiau ieuenctid, gwasanaeth pryd ar glud, a chymorth i bobl anabl.

Gweithio gyda chynghorau lleol

Mae bron i bob cyngor cymuned yn cyflogi Clerc/Swyddog Ariannol Cyfrifol sy’n sicrhau bod y Cyngor yn cael ei weinyddu’n effeithiol. Mae hynny’n cynnwys gwasanaethu cyfarfodydd, sicrhau bod y cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol a thrin ei brosesau ariannol. Mae’r cynghorau canolig i fawr (rhai gyda chyllidebau o dros £1 miliwn) yn cyflogi ystod o staff eraill, gan gynnwys gweinyddwyr, glanhawyr, staff cynnal a chadw, ac ati. Mae angen i bob cyngor fod â rheolau sefydlog a rheoliadau ariannol i reoleiddio eu gweithrediadau.

Os oes cyngor cymuned neu gyngor tref yn eich cymuned chi, byddwch fel arfer yn gweithio’n agos â’r cynghorwyr a’r cyngor ar feysydd sydd o ddiddordeb neu bryder cyffredin.
Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi cytuno ar siarterau gyda’u cynghorau tref neu gymuned sy’n amlinellu gwerthoedd cyffredin a dulliau o ymgysylltu a chydweithio ac mae llawer yn cyfarfod yn rheolaidd drwy fforymau trafod neu gyfarfodydd.

Un Llais Cymru

Un Llais Cymru yw’r sefydliad sy’n cynrychioli ac yn darparu gwasanaethau cymorth i gynghorau tref a chymuned ledled Cymru. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.unllaiscymru.org.uk

Os ydych chi hefyd yn aelod o gyngor tref neu gymuned, bydd Canllaw’r Cynghorydd Da yn ddefnyddiol i chi.