Gweithio gyda chymunedau
Dod i adnabod eich cymuned
Efallai eich bod wedi byw neu weithio yn eich cymuned neu ward am flynyddoedd, ond efallai nad ydych chi’n adnabod yr holl grwpiau gwahanol o bobl sy’n byw yno a’r heriau sy’n eu wynebu.
Ffordd dda o ymgyfarwyddo â’ch ward yw teithio o’i hamgylch yn edrych ar ffyrdd, palmantau, ardaloedd chwarae, mannau agored a chyfleusterau cymunedol eraill. Gallwch roi gwybod am unrhyw beth sydd angen ei atgyweirio fel tyllau yn y ffordd, graffiti neu oleuadau stryd diffygiol i’r adran briodol yn y cyngor a chofnodi’r camau a gymerwyd. Gall hwn hefyd fod yn gyfle da i gyfarfod yn anffurfiol â’ch etholwyr. Mae rhai cynghorwyr yn cerdded o amgylch eu hardal leol gyda chyd-gynghorwyr eraill a swyddogion o’r cyngor er mwyn gallu gwneud penderfyniadau yn y fan a’r lle.
Pan fyddwch chi’n adnabod eich ward a’r hyn mae’r etholwyr yn ei ddisgwyl gennych, gallwch bennu blaenoriaethau ac asesu i ba raddau y maent yn cyd-fynd neu’n gwrthdaro â blaenoriaethau cyffredinol y cyngor ar gyfer yr ardal ehangach.

Pa mor dda ydych chi’n adnabod eich ardal?
Efallai y byddwch wedi ystyried llawer o’r rhain eisoes yn ystod eich ymgyrch, ond dyma rai cwestiynau i’w hystyried:
- Pa ganran o bobl yn eich ward etholiadol sy’n gyflogedig?
- Pwy yw’r prif gyflogwyr lleol yn eich cymuned? A yw pobl yn cymudo i rywle arall?
- Pa grwpiau cymunedol allweddol rydych chi angen cysylltu â nhw?
- Beth yw cyfansoddiad demograffig eich cymuned?
- Faint o bobl sy’n siarad Cymraeg?
- Ydych chi’n deall yn iawn beth yw’r cynlluniau ar gyfer y gymuned yn yr ardal hon?
- Beth hoffai pobl leol ei newid?
- Sut fydd eich ardal yn newid yn y dyfodol? Beth fydd pobl ei eisiau mewn 20 neu 30 mlynedd?
- Pa mor effeithiol mae eich cymuned yn ystyried y gwasanaethau maent yn eu derbyn gan y cyngor?
- Beth oedd canlyniadau addysgol mwyaf diweddar yr ysgolion yn eich ward?
Gofynnwch i swyddogion am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich ward ac edrychwch ar y wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi gan Ddata Cymru.