Gweithio gyda chymunedauCymorthfeydd Diogel

Gweithio gyda chymunedau

Cymorthfeydd Diogel

Tra na allwn ragweld na rheoli popeth a allai ddigwydd i ni, mae yna rai camau y gallwn ddewis eu cymryd i liniaru ac osgoi risg. Mae’r rhestr wirio hon yn eich helpu chi i ystyried beth i feddwl amdanynt wrth sefydlu cymorthfeydd a digwyddiadau ymgysylltu.

Dechreuwch drwy ofyn y cwestiynau canlynol i chi eich hun:

    • A yw’r ystafell a ddynodwyd fel cymhorthfa yn agos at ardaloedd eraill lle mae staff?
    • A fydd yna gydweithwyr eraill yn bresennol yn yr adeilad pan fyddaf yn cynnal fy nghymhorthfa?
    • A yw cydweithwyr eraill yn ymwybodol fy mod yn cynnal fy nghymhorthfa ac a ydynt yn gwybod ym mha ystafell yr wyf yn ei chynnal?
    • A oes angen cydweithiwr arnaf i fy nghefnogi yn y cyfarfod?
    • Os nad oes angen cydweithiwr, a wyf wedi rhoi gwybod iddynt fy mod yn dechrau neu’n gorffen fy nghymhorthfa?
    • A wyf wedi dweud wrth fy nghydweithiwr am ba hyd y dylai’r gymhorthfa bara, fel y gallant ddod i gael cipolwg arnaf os yw’n cymryd mwy o amser?
    • A oes yna lyfr cofnodi digwyddiadau? – gan ddarparu lle canolog i gofnodi digwyddiadau yn gywir, nad yw’n dibynnu ar gyfrif anecdotaidd a all fod yn annibynadwy.
    • A wyf wedi gwirio’r llyfr cofnodi digwyddiadau i weld a yw’r ymwelydd wedi mynychu yn flaenorol ac wedi achosi problemau? – fe ddylai pob math o ymddygiad annerbyniol, gan gynnwys camdriniaeth ar lafar, gael ei ddogfennu, gan nodi’r amser a dylid ei lofnodi.
    • A yw’r ymwelydd wedi arddangos ymddygiad afresymol yn flaenorol neu wedi bod yn ymosodol neu’n wrthdrawiadol?
    • A yw’r ymwelydd yn arddangos ymddygiad afresymol ar hyn o bryd neu arwyddion ei fod wedi cynhyrfu, yn flin neu’n ymosodol?
  • Uned Wybodaeth Gwrthderfysgaeth – Personal Safety Checklist for MP and Councillors

 

 

 

 

    • A wyf wedi gwirio’r ystafell i sicrhau ei bod wedi ei gosod yn gywir gyda fy nghadair i yr agosaf at y drws, fel y gallaf fynd allan yn gyflym os oes angen?
    • A yw fy llwybr dianc yn glir a sut alla i fynd allan yn gyflym ac yn ddiogel os oes angen i mi wneud hynny?
    • A wyf wedi symud unrhyw eitemau sydd wedi eu gadael o gwmpas, y gellid eu defnyddio fel arf yn fy erbyn?
    • A oes yna ofod digonol rhyngof fy hun a’r ymwelydd er mwyn parchu gofod personol?
    • A oes digon o olau yn yr ystafell?
    • Sut ydw i’n galw am gymorth os oes angen i mi wneud hynny?
    • A oes ffôn yn yr ystafell?
    • A wyf angen fy ffôn symudol, a yw wedi ei wefru ac a oes signal?
    • A oes yna gyfrinair y gallaf ei ddefnyddio heb dynnu sylw i roi gwybod i fy nghydweithwyr mod i angen eu cymorth?
    • A oes yna gyfleuster botwm panig yn yr ystafell?
    • Os nad oes botwm panig, a oes yna larwm diogelwch personol ar gael?
    • A wyf yn eistedd ar yr un lefel â hwy?
    • A wyf yn defnyddio cyswllt llygad ac ystumiau dwylo agored i ddangos agwedd gymwynasgar?