Eich rolau yn y Cyngor
Gwasanaethu ar Awdurdod Tân ac Achub
Mae 3 awdurdod tân ac achub yng Nghymru – Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Cymru. Mae aelodau’n cael eu penodi i awdurdod tân ac achub gan eu hawdurdodau cyfansoddol yn ôl cydbwysedd gwleidyddol.

Fel aelod o awdurdod tân ac achub, bydd disgwyl i chi:
- Gynrychioli’r awdurdod tân ac achub yn y gymuned;
- Cynrychioli a hyrwyddo buddiannau’r gymuned;
- Gweithredu fel prif gyswllt rhwng yr awdurdod tân ac achub a’r cynghorau sir/bwrdeistref sirol a’r gymuned leol;
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd yr awdurdod tân ac achub; a
- Chefnogi rôl allweddol yr awdurdod tân ac achub o ddarparu gwasanaethau i’r gymuned a threfn lywodraethu leol gref.