Eich rolau yn y Cyngor
Gwasanaethu ar Awdurdod Parc Cenedlaethol


Yr Awdurdodau
Mae tri awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru – Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri. Mae awdurdodau parciau cenedlaethol yn cynnwys aelodau o’r awdurdodau lleol sydd â thir o fewn y parc. Mae cynghorwyr yn cael eu penodi ar sail cydbwysedd gwleidyddol, ond rhoddir ystyriaeth hefyd i gael wardiau o fewn y parc ac ymrwymiad i ddibenion y parc. Mae’r awdurdodau lleol hyn yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud cyfraniad at gynnal y parc. Yn ogystal ag aelodau etholedig lleol, mae Llywodraeth Cymru’n penodi sawl aelod sydd â phrofiad neu wybodaeth arbenigol am bwnc fel yr amgylchedd, twristiaeth, ffermio neu waith cymunedol. Mae’r rhain yn cael eu penodi drwy broses recriwtio ac mae pob swydd wag yn cael eu hysbysebu’n gyhoeddus. Cyfnod y swydd i aelodau awdurdodau lleol ac aelodau penodedig Llywodraeth Cymru yw 4 blynedd, a’r uchafswm y gall rhai wedi’u penodi wasanaethu yw 10 mlynedd.
Eich Rôl
Mae aelodau o awdurdod parc cenedlaethol yn gweithredu fel cefnogwyr i awdurdod y parc cenedlaethol a’i ddiben o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal, hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd fwynhau’r parc cenedlaethol a deall ei rinweddau arbennig. Mae dyletswydd arnynt i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau sy’n byw yn y parc cenedlaethol. Fel aelod o barc cenedlaethol, byddai disgwyl i chi:
- Wneud penderfyniadau a goruchwylio perfformiad trwy gymryd rhan yng nghyfarfodydd yr awdurdod.
- Cynrychioli buddiannau holl drigolion y parc cenedlaethol.
- Cynrychioli awdurdod y parc cenedlaethol ar gyrff allanol.
- Hyrwyddo a chefnogi trefn lywodraethu dda i awdurdod y parc cenedlaethol a hyrwyddo a chefnogi ei wasanaethau.
Wrth wasanaethu ar awdurdod parc cenedlaethol, mae disgwyl i aelodau gynrychioli buddiannau’r parc yn hytrach na’u prif awdurdod. Fel aelod o awdurdod parc cenedlaethol, bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn llawn yn rhaglenni cynefino a datblygiad parhaus y parc i’ch helpu i wneud cyfraniad effeithiol.
Mae protocol y mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, CLlLC, a Llywodraeth Cymru wedi cytuno arno ynglŷn â phenodi cynghorwyr i awdurdodau’r parciau, sydd ar gael yma.