Eich rolau yn y Cyngor
Cyrff allanol
Fel cynghorydd, efallai y cewch eich enwebu gan eich cyngor i fod ar amryw fathau o gyrff allanol fel sefydliadau cymunedol, cymdeithasau tai a chwmnïau lleol. Nid yw bod yn gynrychiolydd y cyngor ar gorff allanol o reidrwydd yn golygu y byddwch chi’n cynrychioli buddiannau’r cyngor ar y corff. Bydd disgwyl i chi weithredu er budd y corff allanol a defnyddio’ch crebwyll eich hun wrth wneud penderfyniadau, yn unol â’ch dyletswydd gofal i’r corff. Gallech ystyried buddiannau’r cyngor, ond ni ddylai fod yn brif ystyriaeth i chi. Mewn rhai achosion (e.e. os ydych yn gyfarwyddwr cwmni neu’n ymddiriedolwr elusen – gweler isod) gallai pleidleisio o blaid buddiannau’r cyngor olygu eich bod yn mynd yn groes i’ch dyletswydd i’r corff.

Adroddiadau
Efallai fod eich cyngor wedi mabwysiadu polisi ynglŷn â sut a phryd mae angen cyflwyno adroddiadau am yr hyn mae’r sefydliad yn ei wneud. Dylech sicrhau eich bod yn deall y disgwyliadau o ran adrodd yn ôl.
Fodd bynnag, dylech hefyd sicrhau nad yw unrhyw adroddiadau rydych yn eu cyflwyno i’r cyngor yn mynd yn groes i unrhyw ddyletswydd gyfrinachedd sydd gennych i’r corff allanol.
Dylech sicrhau bod manylion eich penodiad i fod ar gorff allanol yn cael eu cynnwys ar y gofrestr o fuddiannau sy’n cael ei chadw gan y Swyddog Monitro. Efallai fod gan y corff allanol hefyd gofrestr o fuddiannau, a dylech lenwi honno.
Pan mae’r corff allanol yn ystyried materion sy’n ymwneud â’ch cyngor chi, dylech ddatgan cysylltiad personol. Mae’r rheolau penodol sydd gan bob corff yn amrywio a dylech ofyn am gyngor ac arweiniad gan ysgrifennydd y sefydliad a/neu’r Swyddog Monitro, fel y bo’n briodol. Os oes gan y corff allanol God Ymddygiad, dylech gadw ato – os nad oes un, dylech ddilyn Cod Ymddygiad yr Aelodau.
Pan mae’r cyngor yn ystyried materion sy’n ymwneud â’r corff allanol neu’n effeithio arno, rhaid i chi ddatgan cysylltiad personol yn unol â’r Cod Ymddygiad. Os mai hwn yw eich unig gysylltiad, ni fydd yn cael ei ystyried yn gysylltiad sy’n peri rhagfarn oni bai fod y mater yn ymwneud â rhoi cymeradwyaeth, trwydded, caniatâd neu gofrestriad ac felly gallwch gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio. Rhaid trin gwybodaeth gyfrinachol yn ofalus ac os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â statws unrhyw wybodaeth, dylech ei chadw’n gyfrinachol nes byddwch wedi gwirio gyda’r swyddog perthnasol. Rhaid i chi gadw at ddyletswyddau cyfrinachedd bob amser – i’r cyngor a’r corff allanol. Bydd rhannu neu ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol yn torri’r Cod Ymddygiad. Os ydych yn gobeithio cael eich penodi i fod ar gorff allanol, mae’n bwysig bod gennych yr amser a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â’r cyfrifoldeb.