Croeso i’ch rôl newydd
Geiriau gan gynghorwyr profiadol
“Disgwyliwch fod yn ansicr ar adegau a pheidiwch â disgwyl newid y byd. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau. Mae pawb yn gwneud rhai ac fe ddysgwch chi ohonyn nhw.”
“Gofynnwch am fentor. Ni fydd yn dweud sut i wneud eich gwaith, ond gall yn sicr eich helpu i ddeall sut mae popeth yn gweithio!”
“Cofiwch fod cynghorwyr o bob plaid eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau.”
“Rhowch drefn ar bethau! Ceisiwch fod yn ddi-bapur – mae’n haws trefnu pethau ac mae’n well i’r amgylchedd!”
“Sortiwch eich TG a gofalwch fod gennych y cyfarpar a’r cysylltiad rydych chi ei angen!”
“Ceisiwch ymarfer ymuno â chyfarfodydd ar-lein cyn iddynt gychwyn yn swyddogol. Bydd angen gwybod sut i gymryd rhan a sicrhau bod popeth yn gweithio.”
“Dysgwch sut i ymddwyn mewn cyfarfod Cyngor Llawn. Mae’n ffurfiol iawn a gall fod braidd yn frawychus os nad ydych chi’n gwybod beth i’w wneud.”
“Darganfyddwch ba swyddogion sy’n gallu helpu â beth. Crëwch restr o swyddogion cyfrifol – bydd yn arbed llawer o amser.”
“Gofalwch eich bod yn gosod ffiniau i bobl gysylltu â chi. Rhowch neges ar y cyfryngau cymdeithasol fel bod pobl yn gwybod sut a phryd i gysylltu â chi.”
“Os hoffech chi gael swydd neu fod yn gadeirydd ar bwyllgor penodol, holwch reolwr eich grŵp sut i wneud hynny.”
“Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i swyddogion – dyna pam maent yno.”
“Peidiwch â dweud rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol fel Cynghorydd na fyddech chi’n barod i’w ddweud wrth y byd!”
“Byddwch yn barod at gyfarfodydd – darllenwch y rhaglen a’r papurau a gwybod sut rydych yn bwriadu cyfrannu.”
“Darllenwch raglenni’r cyngor a phwyllgorau am faterion a allai effeithio ar eich ward chi.”
“Dysgwch wrando ar bobl yn eich ward er mwyn deall beth sy’n digwydd a beth sydd angen ei wneud.”
“Ewch i’r holl sesiynau cynefino a hyfforddiant, ac os nad yw’n gwneud synnwyr, gofynnwch!”
“Byddwch yn barchus tuag at y swyddogion gan ddeall y cyfyngiadau sydd arnynt wrth weithio. Mae dyfalbarhad cwrtais yn talu ar ei ganfed ac nid yw gwên a gair o ddiolch yn costio dim!”