Croeso i’ch rôl newyddEich dyddiau cyntaf yn y swydd

Croeso i’ch rôl newydd

Eich dyddiau cyntaf yn y swydd

Gall eich dyddiau cyntaf yn y swydd fel cynghorydd newydd deimlo fel dechrau unrhyw swydd newydd. Efallai na fyddwch chi’n siŵr pwy i siarad â nhw, beth mae’r gwaith i gyd yn ymwneud ag o neu hyd yn oed eich union rôl chi. Byddwch yn gwybod beth rydych eisiau ei wneud, ond nid sut i’w wneud! Bydd yn rhaid i chi jyglo nifer o rolau a chyfrifoldebau a heriau sylweddol. I wneud y swydd hon yn effeithiol, mae angen cryn dipyn o amser, ymroddiad, amynedd a gwytnwch.

Eich blaenoriaethau cyntaf fydd:

  • Llofnodi eich datganiad derbyn swydd
  • Darllen, deall a llofnodi’r Cod Ymddygiad
  • Datgan unrhyw fuddiannau neu gysylltiadau sydd gennych
  • Cael eich briffio ynglŷn â sut mae cyfansoddiad y cyngor yn gweithio
  • Deall gweithdrefnau cyflogau, lwfansau a threuliau
  • Cyfarfod prif swyddogion ac aelodau’r cyngor a darganfod beth maen nhw’n ei wneud
  • Deall a thrafod y rolau a’r swyddi o fewn y cyngor y byddai gennych chi ddiddordeb ynddynt gydag uwch aelodau. Er enghraifft, bod yn aelod o wahanol bwyllgorau neu gynrychiolydd ar gyrff allanol
  • Dysgu’r protocolau i gymryd rhan mewn cyfarfodydd, yn enwedig cyfarfodydd y Cyngor llawn
  • Cymryd rhan yn y Rhaglen Sefydlu i aelodau newydd
  • Cael eich cyfarpar TG a mynediad at eich gwybodaeth ar-lein, fel y calendr cyfarfodydd a phorth yr aelodau
  • Trefnu eich gwaith cymunedol a system eich ‘swyddfa’ gartref
  • Mentor neu dywysydd yn mynd â chi o amgylch y lle ac yn ateb unrhyw gwestiynau eraill

Cyflwyniad, Hyfforddiant a Chefnogaeth

Mae pob cyngor yn trefnu rhaglen gynefino i gynghorwyr newydd fel y maent i aelodau newydd o staff. Sicrhewch fod gwybodaeth eich Rhaglen Sefydlu gennych chi neu’ch bod yn gwybod ble i gael gafael arni. Gofalwch eich bod yn rhoi’r holl sesiynau cynefino i aelodau newydd yn eich dyddiadur. Nid oes unrhyw un yn cael ei ethol â’r holl wybodaeth a’r sgiliau maent eu hangen! Bydd cynghorwyr profiadol hefyd yn elwa o sesiwn i’w hatgoffa gan fod y sector cyhoeddus yn newid o hyd. Yn y sesiynau hyn, byddwch yn dysgu am eich rôl a’r polisi a’r cyfreithiau y byddwch yn eu dilyn, byddwch yn cyfarfod y swyddogion â’r cynghorwyr y byddwch yn gweithio gyda nhw a byddwch yn dechrau datblygu sgiliau ychwanegol. Mae rhai cynghorau hefyd yn trefnu i chi gael eich mentora neu arwain gan swyddogion neu gynghorwyr profiadol. Os bydd arnoch chi angen unrhyw adnoddau, cefnogaeth neu wybodaeth, gofynnwch – mae’r swyddogion ar gael i ddarparu cyngor, canllawiau a chefnogaeth i chi.