Croeso i’ch rôl newyddDiogelwch Personol: Awgrymiadau Gwych

Croeso i’ch rôl newydd

Diogelwch Personol: Awgrymiadau Gwych

Fel swyddog etholedig byddwch yn mynychu digwyddiadau cyhoeddus, cyfarfodydd preifat, cynnal cymorthfeydd a bod yn llygad y cyhoedd. Er bod y tebygolrwydd y byddwch chi neu aelod o’ch teulu yn dioddef trosedd treisgar yn parhau i fod yn isel, mae diogelwch personol yn hollbwysig, ac yma rydym yn amlygu rhai gwersi allweddol sydd â’r nod o’ch cadw’n ddiogel. Po fwyaf y byddwch chi’n ei wneud i amddiffyn eich hun, y gorau y byddwch chi a’ch teulu wedi’ch amddiffyn.

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi cynhyrchu adnodd ar gyfer swyddogion etholedig, sy’n rhoi awgrymiadau da ar gyfer diogelwch personol.

 

Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am y canlynol:

    • Cymorthfeydd Diogel
    • Cyfathrebu a Meddwl am Ddiogelwch
    • Delio ag Ymosodedd
    • Bygythiadau a Risgiau
    • Adnoddau Cynorthwyol Pellach

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin ag aflonyddwch, camdriniaeth a bygythiadau

Pryder cynyddol sy’n wynebu’r rheiny mewn swyddi cyhoeddus yw lefelau cynyddol o fygythiadau, aflonyddwch a chamdriniaeth y maent yn eu profi. Er bod trafod a mynegi gwahanol safbwyntiau i gyd yn rhan o ddemocratiaeth gynrychioladol iach, mae’r ymddygiad annerbyniol hwn yn tanseilio’r egwyddorion democrataidd allweddol, sef rhyddid barn, trafod ac ymgysylltu, ac maen nhw weithiau’n peryglu diogelwch cynghorwyr. Yn ffodus, mae digwyddiadau difrifol yn brin.

Er mwyn cydnabod yr effaith mae camdriniaeth a bygythiadau’n ei chael ar gynghorwyr, mae CLlL wedi uno â CLlL Cymru, CLlL Gogledd Iwerddon, a Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban i lunio’r canllawiau hyn a chanllawiau eraill.